Mae’r ansicrwydd tros ddyfodol y swydd wedi creu anawsterau i Gomisiynydd y Gymraeg yn ystod y ddwy flynedd ddiwetha’.

Mae angen i’r Llywodraeth ddechrau cynllunio ar unwaith os yw hi am gyrraedd y nod o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 ac mae diffyg twf addysg Gymraeg yn “drychinebus”.

Dyna farn y Comisiynydd presennol, Meri Huws, wrth iddi baratoi i adael y swydd – mae’n gwneud y sylwadau wrth yr holwr Guto Harri ar raglen S4C, Y Byd yn ei Le, am 9.30 heno.

‘Lot rhy gynnar’

Yn ôl Meri Huws, fe fyddai wedi bod yn gamgymeriad dileu swydd y Comisiynydd ar ôl dim ond saith mlynedd – dyna oedd bwriad y Llywodraeth ond fe newidion nhw eu meddwl yr wythnos ddiwetha’.

“Mae lot rhy gynnar iddyn nhw benderfynu bod y model yma ddim yn gweithio,” meddai, cyn cydnabod bod yr ansicrwydd wedi creu trafferthion.

“Yn sicr, dyw e ddim wedi helpu o ran fy ngwaith i. Mae’r flwyddyn neu ddwy ddiwetha’ wedi bod yn anodd oherwydd bod yna ryw farc cwestiwn yn y gornel a dyw’r marc cwestiwn yna ddim yn mynd bant.”

‘Trychinebus’

Roedd hi hefyd yn feirniadol o fethiant y Llywodraeth ac awdurdodau addysg i adeiladu ar lwyddiant addysg Gymraeg, eflen allweddol hyn y nod o gyrraedd miliwn o siaradwyr.

Roedd canran y disgyblion mewn addysg Gymraeg yr un peth â deng mlynedd yn ôl ac roedd hynny, meddai, “yn drychinebus”.

Yn y cyfweliad, roedd hi hefyd yn amddiffyn ei gwaith hithau’n cadw llygad ar gyrff cyhoeddus sydd i fod i weithredu safonau iaith – er nad oedd hi wedi cosbi’r un corff yn ystod ei chyfnod, roedd wedi cynnal arolygon ac wedi pwyso arnyn nhw i wella.