Mae aelod o Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Pêl-droed Abertawe yn dweud ei bod hi’n gobeithio am “brotest dawel” yn erbyn y perchnogion Americanaidd heddiw.

Bydd cefnogwyr yn ymgynnull yn Sgwâr y Castell am 12 o’r gloch, cyn y gêm gynghrair yn erbyn Millwall, ac yn gorymdeithio i Stadiwm Liberty erbyn 1.30yp ar gyfer y gêm am 3 o’r gloch.

Maen nhw’n anhapus ynghylch y ffordd y mae Jason Levien a Steve Kaplen yn rhedeg y clwb, ac fe ddaeth y penllanw ddydd Sadwrn diwethaf pan ymddiswyddodd y cadeirydd Huw Jenkins – rhywbeth yr oedd y cefnogwyr yn galw amdano ers tro.

Ond mae Cath Dyer yn awyddus i ategu barn y cefnogwyr nad oes bai o gwbl ar y rheolwr Graham Potter na’r chwaraewyr.

“Ry’n ni jyst yn gobeithio y bydd y cefnogwyr yn dangos parch iddyn nhw a’u cefnogi nhw, canu ma’s yn uchel – ddydd Sadwrn a phob gêm arall cyn diwedd y tymor,” meddai wrth golwg360.

“Fel ymddiriedolaeth, ry’n ni’n ymwybodol fod protest yn mynd i fod, ond mae rhaid i ni gefnogi’r cefnogwyr a’r hawl sydd gyda nhw i brotestio.

“Ond ry’n ni’n gobeithio bo nhw’n mynd i brotestio’n dawel.”

Enw drwg Millwall

Fe fydd yr orymdaith yn mynd heibio’r orsaf drenau, lle mae disgwyl i gefnogwyr Millwall lanio yn y ddinas.

Ac fe’r cefnogwyr hynny’n dwyn sylw’n ddiweddar yn dilyn brwydro ffyrnig yn erbyn cefnogwyr Everton mewn gêm gwpan.

“Mae’n mynd i fod yn ofnadwy o anodd os ydyn nhw’n dechrau yng Ngerddi’r Castell,” meddai Cath Dyer.

“Gyda chefnogwyr Millwall yn yr orsaf, mae’n mynd i fod yn hynod o anodd i bawb. Mae’r heddlu’n mynd i gael gwaith caled i’w wneud.

“Jyst gobeithio bod popeth yn mynd i droi ma’s yn OK.”

Enw drwg Abertawe?

Yn dilyn gwrthdaro â chefnogwyr Bristol City yn ddiweddar, mae perygl y gallai unrhyw ymladd eto greu enw drwg i Abertawe.

“Dyna’r broblem ar y funud,” meddai Cath Dyer. “Achos bod Abertawe yn y newyddion shwd gymaint, gydag unrhyw beth sy’n digwydd ynglŷn â’r clwb, mae pawb yn mynd i ddweud, ‘Beth mae Abertawe wedi gwneud tro ’ma?’

“Ond mae lot o fai ar Bristol City hefyd. Mae lot yn beio Abertawe, a lot yn beio Bristol City. Ond mae’n siomedig fod y pethau yma’n gallu digwydd mewn pêl-droed ta beth.”