Bydd sefydliadau yng Nghymru sy’n paratoi Ewropeaid am Brexit yn derbyn £51,000 gan Lywodraeth Cymru.

Mae’r sefydliadau yma yn cynorthwyo unigolion o’r Undeb Ewropeaidd sy’n byw yng Nghymru ond sydd ddim yn ddinasyddion y Deyrnas Unedig.

Mae cyrff o Abertawe, Merthyr Tudful, Casnewydd a gogledd Cymru ymhlith y rhai sy’n elwa.

“Gyda’r bobl o wledydd yr Undeb Ewropeaidd sy’n byw yng Nghymru yn wynebu ansicrwydd cynyddol a pharhaus, mae’n hanfodol eu cefnogi,” meddai’r Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip, Jane Hutt.

Mae disgwyl i Brexit gael effaith ar 80,000 o ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd sy’n byw yng Nghymru.

Y sefydliadau

  • Cyngor Cydraddoldeb Rhanbarthol Bae Abertawe –
  • Cartrefi Cymoedd Merthyr (mewn partneriaeth â Chymdeithas Cymuned Bwylaidd y Cymoedd)
  • Mind Casnewydd
  • Rhwydwaith Cydraddoldeb Rhanbarthol y Gogledd (mewn partneriaeth â BAWSO)