Mae arweinydd Plaid Cymru, yn galw am gynnal ail refferendwm ar y penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Daw’r alwad ar ôl i San Steffan dderbyn cyfres o welliannau i gynllun Brexit Theresa May neithiwr (nos Fawrth, Ionawr 29).

Mae gwelliant gan Caroline Spelman a Jack Dromey yn dweud na fydd yn bosib gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb – ond does dim gorfodaeth gyfreithiol i weithredu ar y gwelliant hwnnw.

Mae gwelliant arall gan Graham Brady yn galw ar Lywodraeth Prydain i ail-drafod sefyllfa Iwerddon er mwyn osgoi Brexit caled.

Sinigaidd ac anghyfrifol

“Mae pasio gwelliant Graham Brady o blaid ail-drafod gyda’r Undeb Ewropeaidd yn cynrychioli gwleidyddiaeth ffantasi o’r math mwyaf sinigaidd ac anghyfrifol y gellir ei ddychmygu,” meddai Adam Price.

“Mae Llywodraeth y Deyrnas Uneditg bellach wedi ymrwymo i bolisi sydd yn groes i realiti gwleidyddol, o ystyried fod yr Undeb Ewropeaidd eisoes wedi gwrthod aildrafod y Cytundeb Ymadael.

“Maen nhw hefyd wedi ymrwymo i osgoi unig ganlyniad y weithred hon, sef ymadael â’r Undeb Ewropeaidd heb gytundeb, o ganlyniad i basio gwelliant trawsbleidiol Spelman a Dromey oedd yn ceisio gwrthod ymadael â’r Undeb Ewropeaidd heb gytundeb.”