Mae Mark Drakeford, prif weinidog Cymru, yn cyhuddo Theresa May, prif weinidog Prydain, o “redeg y cloc i lawr” wrth geisio sicrhau cytundeb Brexit.

Daw ei sylwadau ar ôl pleidlais yn San Steffan neithiwr (nos Fawrth, Ionawr 30) sy’n golygu bod Theresa May yn gorfod dychwelyd i Frwsel i ofyn am drafodaethau pellach, er bod penaethiaid Ewrop eisoes yn dweud nad yw hynny’n bosibl.

Ac maen nhw’n gwrthod cefnogi ffin galed o safbwynt Iwerddon, gan wrthod y ‘backstop’ dadleuol.

“Mae’n anhygoel fod y prif weinidog wedi cefnogi galwadau i aildrafod y ‘backstop’,” meddai Mark Drakeford. “Dim ond pythefnos yn ôl, dywedodd fod hyn yn amhosib.

“Heb unrhyw syniadau newydd a llinellau coch yn gadarn yn eu lle, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn rhedeg y cloc i lawr mewn gobaith ofer y bydd eu cytundeb yn pasio.”