Mae Heddlu’r De yn apelio am wybodaeth yn dilyn diflaniad merch 16 oed o ardal Cymer yng Nghastell-nedd Port Talbot.

Does neb wedi gweld Demi Leigh Burn ers dydd Gwener (Ionawr 25). Ar y pryd, roedd hi’n gwisgo trowsus glas a siaced chwaraeon coch a gwyn.

Mae ganddi gysylltiadau ar draws ardal Castell-nedd Port Talbot, ac mae’r heddlu’n credu ei bod hi’n dal yn yr ardal.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.