Mae Plaid Cymru yn nhref Llanelli yn cynnal noson i ddathlu Santes Dwynwen dros y Sul – a hynny er bod y gangen leol wedi’i gwahardd yn swyddogol gan y blaid yn ganolog.

Dafydd Iwan, cyn-lywydd Plaid Cymru, fydd yn diddanu aelodau yng ngwesty’r Diplomat nos fory (dydd Sadwrn, Ionawr 26), gydag elw’r noson yn mynd i gronfa Etholaeth Plaid Cymru Llanelli.

Daw hyn er bod cangen y dref wedi’i diarddel ym mis Chwefror y llynedd ar ôl cael ei chyhuddo o “dorri rheolau sefydlog y blaid”, ac erbyn mis Mai roedd adroddiadau bod dwsinau wedi cefnu ar y Blaid yn llwyr.

Roedd yna waharddiad hefyd ar i’r aelodau gynnal unrhyw ddigwyddiadau yn enw Plaid Cymru – er mai ‘Plaid Llanelli’ sy’n amlwg ar y psoter, yr etholaeth yn hytrach na changen y dre’ sy’n cynnal y cyngerdd

Y ffrae

Er bod gan Blaid Cymru arweinydd newydd bellach, mae’r anghydfod rhyngddyn nhw â chyn-aelodau cangen Llanelli yn fyw o hyd, yn ôl dau gyn-aelod o’r gangen, Gwyn Hopkins, a Howell Williams, cyn-ysgrifennydd y gangen.

Asgwrn y gynnen yw penderfyniad Plaid Cymru i osod Mari Arthur yn ymgeisydd etholaethol tros y rhanbarth, er i’r gangen ffafrio cynghorydd lleol, Sean Rees.

Er mai Leanne Wood oedd arweinydd y blaid pan daniodd y ffrae, ac er bod Adam Price bellach wrth y llyw, dyw safbwynt y cyn-aelodau ddim wedi newid rhyw lawer.

“[Pontio’r hollt]? Does dim tystiolaeth o hynny cyn belled,” meddai Gwyn Hopkins wrth golwg360.

“Dydw i ddim yn dweud nad yw’n bosib i Adam Price gael peth dylanwad. Ond ers blwyddyn a hanner, does dim byd wedi digwydd o ran sefyllfa Plaid yn Llanelli.

“Hynny yw, mae 40 o bobol naill ai wedi cael eu gwahardd o’r blaid neu wedi ymddeol. Ac wrth gwrs, y bobol hyn oedd yr actifyddion, a’r bobol a oedd yn noddi’r blaid yn ariannol.

“Sa i’n gwybod am un person sydd wedi mynegi dymuniad i fynd yn ôl. Y drafferth yw, mae’r bobol sydd wedi achosi’r difrod yn Llanelli yn dal mewn grym.”

Atsain

Mae Howell Williams yn atseinio’r sylwadau yma, ac yn cyfeirio at un o uwch-swyddogion y Blaid – un o lond llaw o ffigyrau sydd wedi ennyn beirniadaeth gan y cyn-aelodau.

“Tra bod [Prif Weithredwr Plaid Cymru] Gareth Clubb yna, a tra bod Mari Arthur gyda ni, fydda i ddim yn mynd yn agos at y Blaid yn Llanelli,” meddai wrth golwg360.

“Os ydych yn mynd i ennill y sedd yn Llanelli mae’n rhaid [ennill cefnogaeth] y dre. Dyw’r bobol yma sy’n credu eu bod yn well na ni, ddim yn ystyried hynny.

“Does dim digon o boblogaeth yng Nghwm Gwendraeth. Ta pwy mor gryf mae’r gefnogaeth yna, does dim y niferoedd gyda ni.”

Mae’r ddau gyn-aelod yn nodi ei fod yn hapusach gydag Adam Price wrth y llyw, na Leanne Wood.

Ym mis Gorffennaf y llynedd mi wnaeth rhai cyn-aelodau lansio grŵp “anwleidyddol” o’r enw Fforwm Llanelli, gyda’r nod o drafod materion “cenedlaethol a rhyngwladol”.

Mae golwg360 wedi gofyn i Blaid Cymru am ymateb.

 

Dathlu Dwynwen gyda Dafydd Iwan…Ychydig o docynnau sydd ar ôl.Celebrate St Dwynwen's day in style.Last few tickets remaining.?????

Posted by Plaid Cymru Llanelli on Monday, 21 January 2019