Mae ymgyrch newydd wedi cael ei lansio gan Lywodraeth Cymru sy’n ceisio codi ymwybyddiaeth o’r ffaith bod rheolaeth drwy orfodaeth yn ffurf ar gam-drin.

Nod ‘Nid cariad yw hyn. Rheolaeth yw hyn’ yw helpu pobol i adnabod nodweddion rheolaeth drwy orfodaeth.

Yn ôl amcangyfrif, fe brofodd 2m o oedolion yng Nghymru a Lloegr gam-drin domestig y llynedd, gyda 65% ohonyn nhw’n ferched a 35% yn ddynion.

Mae rheolaeth drwy orfodaeth wedi bod y drosedd ers 2015, a’r llynedd fe gofnododd yr heddlu yng Nghymru a Lloegr 9,053 o droseddau’n ymwneud â rheolaeth drwy orfodaeth.

“Brwydro”

Cafodd yr ymgyrch ei lansio yn y Riverfront, Casnewydd, ddoe (dydd Iau, Ionawr 17), lle clywodd y gynulleidfa areithiau a chlipiau sain gan ddioddefwyr  rheolaeth drwy orfodaeth.

“Mae’n gymaint o destun sioc ag o gywilydd bod un ym mhob pedair menyw yn profi cam-drin domestig yn ystod eu bywyd,” meddai Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford. “Allwn ni ddim cadw’n dawel a wnawn ni ddim.

“Mae cynnydd sylweddol wedi’i wneud ledled Cymru, gan gynnwys y Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol hollbwysig yn 2015, a bydd ein hymgyrch newydd ar reolaeth drwy orfodaeth yn galluogi dioddefwyr a’r rheini o’u hamgylch i sylweddoli beth yw nodweddion cam-drin a’u cydnabod.

“Hyd nes y cawn wared yn llwyr ar gam-drin, byddwn yn parhau i ledaenu negeseuon yn ennyn cefnogaeth ac yn codi ymwybyddiaeth, a brwydro yn erbyn y troseddau atgas hyn.”