Mae pob un o’r 6,000 o gleifion a oedd yn gofrestredig gyda Meddygfa Teifi yn Llandysul wedi cael lleoedd mewn meddygfeydd cyfagos, yn ôl Bwrdd Iechyd Hywel Dda.

Fis Hydref y llynedd, fe gyhoeddodd y bwrdd iechyd y byddai gwasanaethau’r feddygfa ar gyfer cleifion yn dod i ben ar ddiwedd mis Ionawr 2019, a hynny yn sgil methiant i benodi meddyg newydd.

Ond erbyn hyn, maen nhw wedi ysgrifennu at bob un claf yn unigol gyda manylion eu meddygfa newydd.

Mewn datganiad, dywed y bwrdd iechyd y gall cleifion barhau i ddefnyddio gwasanaethau Meddygfa Teifi tan Ionawr 31, cyn y bydd eu gofal yn cael ei drosglwyddo i’w meddygfa newydd ar Chwefror 1.

Bydd staff cymunedol yn parhau i ddefnyddio Meddygfa Teifi fel canolfan, medden nhw, tra bo’r Ganolfan y Tu Allan i Oriau yn aros ym Meddygfa Llyn-y-frân, sydd hefyd yn Llandysul.

“Parhau i weithio”

“Mae pob claf wedi’i ddyrannu i feddyg teulu yn seiliedig ar eu cyfeiriad cartref a ffiniau meddygfeydd,” meddai llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Hywel Dda.

“Rydym yn parhau i weithio gyda’r meddygfeydd dan sylw i sicrhau bod y newid hwn yn digwydd mor esmwyth â phosib. Efallai y bydd rhywfaint bach o amharu pan gaiff cofnodion cleifion eu trosglwyddo.

“Hoffem ddiolch i’r holl feddygfeydd am eu cydweithrediad yn ystod y cyfnod pontio hwn sy’n golygu medru parhau i gynnig Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol mewn ffordd gynaliadwy yn yr ardal.”