Mae awdur llyfr ar Brexit a chadeirydd Cymru Dros Ewrop yn dweud bod gwledydd Prydain wedi cyrraedd “cornel pwysig” ar Brexit, yn dilyn methiant Theresa May i sicrhau cefnogaeth i’w chytundeb yn Nhŷ’r Cyffredin.

Yn ôl Geraint Talfan Davies, awdur Unfinished Business: Journal of an Embattled European, mae’r golled o 202 pleidlais yn erbyn 432 i’r Llywodraeth yn “ganlyniad syfrdanol”.

“Mae’n amlwg i fi o weld y mwyafrif yn erbyn y Llywodraeth, dydw i ddim yn gallu gweld y gymuned Ewropeaidd yn dod i helpu’r Llywodraeth mewn ffordd y gallan nhw fod wedi’i wneud pe tai mwyafrif llai,” meddai wrth golwg360.

“Mae hwn yn mynd i gael effaith fawr iawn, dw i’n credu, ac fe fydd yn ddiddorol gweld beth fydd yn dod yn y trafodaethau nesaf.”

Ail refferendwm – “cyfeiriad arall”

Os na fydd Theresa May yn galw Etholiad Cyffredinol yn ystod yr wythnosau nesaf, yn ôl Geraint Talfan Davies, bydd yn rhaid dilyn opsiynau eraill sy’n cynnwys ail refferendwm, meddai.

“Mae’n ganlyniad syfrdanol yn erbyn y Llywodraeth, ond dw i’n credu y bydd y Senedd yn pleidleisio er mwyn atal unrhyw syniad o adael heb gytundeb,” ychwanega.

“Os na fydd etholiad cyffredinol, dim ond un cyfeiriad arall sydd i fynd, dw i’n credu, a hwnna yw mynd yn ôl at y bobol.”