Mae dyn o Sir Benfro wedi ei cael ei wahardd rhag cadw cŵn am weddill ei oes a chael dedfryd o 24 wythnos o garchar wedi ei gohirio am ddwy flynedd.

Yn ôl swyddog o gymdeithas atal creulondeb, yr RSPCA, roedd 25 o gŵn, gan gynnwys 19 o gŵn bach, yn cael eu cadw mewn “amgylchiadau ofnadwy”.

Yn Llys Ynadon Hwlffordd, fe blediodd David Thomas, 73 oed, o Ambleston ger Hwlffordd, yn euog i dri chyhuddiad lles anifeiliaid.

‘Amgylchiadau brwnt a pheryglus’

Yn ôl yr Arolygydd Keith Hogben, roedd wedi mynd i adfeilion fferm ar gyrion Hwlffordd a dod o hyd i’r cŵn. Roedd yn o’r cŵn bach wedi marw.

“Wrth gyrraedd, dw i’n cofio meddwl sefyllfa mor ofnadwy oedd hon,” meddai wedyn. “Roedd yn ddychrynllyd. Roedd y cŵn a’r cŵn bach yn cael eu cadw mewn amgylchiadau brwnt a pheryglus.

“Doedd ganddyn nhw ddim bwyd na dŵr, roedden nhw mewn peryg o anafiadau ac afiechyd ac roedden nhw’n cael eu cadw yn y tywyllwch gydag awyru gwael.”