Mae Heddlu Gwent wedi cyhoeddi enw beiciwr modur a fu farw wedi gwrthdrawiad ar gyrion Casnewydd nos Wener (Rhagfyr 28).

Bu farw Luke Batters, 19 oed, wedi’r ddamwain tua 11.45yh ym mhentref Whitson.

Dim ond un cerbyd/oedd yn y gwrthdrawiad, yn ôl yr heddlu.

Talodd teulu Mr Batters deyrnged iddo gan ganmol “ei natur siriol a’i barodrwydd i helpu eraill”.

Mewn datganiad maen nhw’n dweud ei fod “yn ddyn ifanc, tal a thirion” oedd yng nghanol blwyddyn ‘gap’ cyn dechrau ar brentisiaeth peirianneg drydanol ar ôl sefyll arholiadau Safon Uwch yn Ysgol Gatholig St Albans ym Mhont-y-pŵl.

Luke oedd unig fab annwyl ei rieni – Dudley a Jenny – a brawd Lucy, 16. Dywedon nhw mai ei brif ddiddordebau oedd chwarae gêm gyfrifiadurol ryngwladol “lle roedd ganddo lawer o ffrindiau ac roedd yn chwaraewr medrus, a’i feic modur Yamaha MT-07.

“Roedd wirioneddol o ddifrif ynghylch beicio modur, gan gymryd cwrs diogelwch a dysgu’r technegau gorau gan arbenigwyr.”

Roedd hefyd yn mwynhau treulio amser gyda’i gariad, Ami.