Mae Paul Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, wedi defnyddio’i neges Nadolig gyntaf i ddiolch i’r gwasanaethau brys yng Nghymru.

“Tra ein bod ni yn ein cartrefi yn cael ein cinio Nadolig neu’n gwylio rhaglenni teledu Nadoligaidd, bydd gweithwyr y gwasanaethau brys yn dal i fod ar ddyletswydd,” meddai.

“Byddan nhw’n cyrraedd ar gyfer eu shifft yn ôl eu harfer.

“Bydd nyrsys yn dal i ofalu am bobol sâl, bydd yr heddlu’n dal yn barod ar gyfer galwadau 999, parafeddygon yn dal yn barod i gyrraedd claf. Iddyn nhw, dim ond diwrnod cyffredin arall yw’r Nadolig.

“Wrth i ni’r gwleidyddion ddefnyddio’r flwyddyn i ddadlau am y ffordd orau i reoli’r gwasanaethau brys, maen nhw’n cyflawni’r gwaith, boed glaw neu hindda.

“Rhaid i ni gydnabod pwysigrwydd eu rôl a rhaid i ni beidio ag anghofio mai nhw yw’r rhai sy’n gorfod ymdrin â chanlyniadau penderfyniadau Llywodraeth Cymru.”

Gwirfoddolwyr

Yn ogystal â’r rhai sy’n cael eu cyflogi gan y gwasanaethau brys, meddai, mae eraill yn rhoi o’u hamser i wirfoddoli “i helpu i fwydo’r digartref neu ddefnyddio eu hamser mewn cartref gofal i sgwrsio â phobol unig a diniwed”.

“Dyma bencampwyr ein cymdeithas sy’n defnyddio’r Nadolig i’w gwneud yn haws ac yn fwy pleserus i bobol eraill,” meddai.

“O gofio pa mor brysur fu 2018 ac y mae’r flwyddyn nesaf yn addo bod, mae’n siŵr y byddwch chi am ymuno â fi a gobeithio am ddiweddglo tawel i’r flwyddyn.”