Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi nifer o rybuddion am lifogydd yn y gorllewin a’r canolbarth.

Maen nhw’n effeithio ar ardaloedd ym Mhowys a De Sir Benfro.

Mae’r rhybuddion yn ymwneud ag afon Gwy ym Mhowys, afonydd Efyrnwy, Tanat a Chain ym Mhowys, rhannau uchaf afon Hafren ym Mhowys, afon Ddyfi yn ardal Machynlleth ac afonydd De Sir Benfro.