Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar y Gweinidog Addysg Kirsty Williams i ymyrryd i achub Ysgol Bodffordd ar Ynys Môn yn dilyn penderfyniad Pwyllgor Gwaith Cyngor Ynys Môn heddiw (Dydd Llun, Rhagfyr 17) i symud ymlaen i gau’r ysgol.

Maen nhw’n dweud fod angen i Kirsty Williams ymyrryd er mwyn “achub hygrededd” ei chod newydd a gyhoeddwyd gyda’r bwriad o roi gobaith newydd i ysgolion gwledig.

 “Os gellir cau ysgol wledig Gymraeg llawn yn groes i ddymuniadau’r gymuned leol a pheryglu dyfodol yr unig ganolfan gymunedol yn y broses, a hynny heb ddilyn gofynion yr hen gôd trefniadaeth ysgolion, heb sôn am y newydd, yna does fawr ddim gobaith i unrhyw ysgolion gwledig yng Nghymru,” meddai Ffred Ffransis o Gymdeithas yr Iaith.

“Rhaid ymyrryd”

Mae’r Gymdeithas yn pwyntio bys at Gyngor Môn am beidio â chadw at ofynion hen god trefniadaeth ysgolion.

Maen nhw hefyd yn honni eu bod wedi anwybyddu ystyried yr effaith ar y gymuned leol a chynlluniau eraill i arbed arian i ysgolion.

“Os nad yw Awdurdodau Lleol wedi cadw at ofynion yr hen gôd, beth yw’r pwynt i Kirsty Williams gyflwyno côd newydd sydd â rhagdyb o blaid ysgolion gwledig? Beth sydd i’w hatal rhag anwybyddu’r côd newydd hefyd? Rhaid i’r Gweinidog Addysg ymyrryd yn awr er mwyn achub hygrededd ei strategaeth ar gyfer ysgolion gwledig,” ychwanegodd Ffred Ffransis.

“Penderfyniadau anodd”

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Ynys Môn, “Wrth wneud penderfyniad ynghylch Ysgol Bodffordd ac Ysgol Corn Hir, cydymffurfiwyd â’r Cod Trefniadaeth Ysgolion. Byddwn yn parhau i gydymffurfio gyda’r cod diwygiedig i’r dyfodol.

“Gyda thoriadau sylweddol yng nghyllideb awdurdodau lleol, fodd bynnag, nid oes modd bellach i eithrio addysg rhag toriadau.”

“Er yn benderfyniadau anodd tu hwnt, rydym hefyd yn ffyddiog bod ein penderfyniadau diweddar wedi eu seilio ar dystiolaeth gadarn ac wedi eu gwneud er budd cyfundrefn addysg yr Ynys gyfan.”