Mae llys wedi clywed bod mam wedi dangos arwyddion o orffwylledd pan laddodd ei merch bedair oed yn y Rhondda eleni.

Clywodd Llys y Goron Casnewydd bod Carly Ann Harris, 38, wedi bod yn dioddef o salwch seicotig “difrifol” yn yr wythnosau cyn iddi ladd ei merch Amelia Brooke Harris.

Dywedodd Dr Arden Tomison, seicolegydd fforensig, ei fod wedi cynnal archwiliad seicolegol o Carly Ann Harris ar 20 Tachwedd a’i bod hi’n benderfynol ei bod wedi gorfod lladd ei phlentyn er mwyn ei diogelu ac achub y byd.

“Roedd hi’n deall lle’r oedd hi a pham ei bod wedi cael ei hanfon i’r ysbyty ond roedd hi’n dal i deimlo bod yna gamgymeriad ofnadwy a bod pobl wedi’i chamddeall,” meddai Dr Arden Tomison.

Ychwanegodd ei fod yn credu ei bod yn dangos arwyddion o orffwylledd a’i bod wedi datblygu ei salwch meddwl tua deufis cyn iddi ladd Amelia.

Clywodd y llys bod seicolegydd arall, Dr Phillip Joseph, yn credu bod Carly Ann Harris wedi datblygu ei salwch meddwl tua phythefnos cyn y digwyddiad. Mae Dr Joseph hefyd wedi dweud ei fod yn credu bod ei chamddefnydd o amffetaminau wedi arwain at gyfnod seicotig a dywedodd Dr Tomison bod hynny’n “bosib” ond mai dyma’r “opsiwn lleiaf tebygol.”

Mae’r llys eisoes wedi clywed bod Carly Ann Harris wedi lladd ei merch drwy ei boddi mewn bath cyn llosgi ei chorff yn yr ardd gefn yn eu cartref yn Nhrealaw, y Rhondda ar 8 Mehefin eleni.

Mae’r rheithgor wedi cael yr opsiwn o benderfynu a yw Carly Ann Harris yn ddieuog o lofruddiaeth ar y sail ei bod yn orffwyll, neu’n euog o ddynladdiad ar y sail nad oedd yn ei iawn bwyll.

Mae Carly Ann Harris o Heol Brithweunydd, Trealaw, Tonypandy, yn gwadu llofruddiaeth a dynladdiad ac mae’r achos yn parhau.