Mae RSPCA Cymru yn ymchwilio ar ôl i 40 o lygod byw gael eu dympio mewn bocs yn Cheshire Oaks ger Caer.

Un o ogledd Cymru ddaeth o hyd i’r bocs – a oedd yn cynnwys ysgrifen plentyn ar ei ochr – tra’r oedd yn mynd am dro gyda’i ffrindiau’r wythnos ddiwethaf (Rhagfyr 7).

Mae RSPCA Cymru bellach wedi casglu’r llygod, wedi i’r unigolyn o Gei Connah fynd â nhw adref.

Bellach mae’r llygod wedi eu dosbarthu i ganolfannau’r RSPCA ym Mryn-y-Maen, Stapeley Grange a Fferm Gonsal.

“Anweddus ac annerbyniol”

“Rydym yn ddiolchgar i’r person o ogledd Cymru a ddaeth o hyd i’r llygod hyn a cheisio’u helpu,” meddai Tim Jones o’r RSPCA.

“Mae’n syndod wrth feddwl bod rhywun yn meddwl ei bod hi’n dderbyniol i ddympio 40 o lygod anwes fel hyn yn Cheshire Oaks.

“Mae’n hollol anweddus ac annerbyniol i drin anifeiliaid yn y modd hwn.”