Mae Yes Cymru “yn gryfach nag erioed”, yn ôl Siôn Jobbins, cadeirydd newydd y mudiad sy’n ymgyrchu dros annibyniaeth i Gymru.

Fe gafodd y gŵr o Aberystwyth ei ethol yn gadeirydd yn ystod cyfarfod brys yn Llanfair-ym-Muallt ddoe (dydd Sadwrn, Rhagfyr 8), a hynny yn dilyn cyfnod ansefydlog i’r mudiad.

Roedd hynny’n cynnwys diarddel nifer o aelodau’r pwyllgor blaenorol, ond maen nhw bellach wedi cael dychwelyd at y mudiad.

Ac mae’n dweud ei fod e am ganolbwyntio ar y dyfodol yn hytrach na’r gorffennol, a cheisio tyfu’r mudiad drwy ganolbwyntio mwy ar y canghennau lleol o amgylch Cymru.

“O hyn ymlaen, y’n ni jyst moyn trafod cyfansoddiad Cymru annibynnol. Dyna yw job Yes Cymru,” meddai wrth golwg360.

“Mae ansefydlogrwydd wedi bod, ond mae lot o waith da wedi’i wneud hefyd, tomen o waith da mewn gwirionedd. Mae’r wefan nawr yn ‘fit for purpose’, mae’n gallu bod yn rhywbeth lot mwy gweithgar gyda’r aelodaeth.

“Mae ’na drefn yn ariannol, sydd hefyd yn bwysig.

“Mae’r mudiad yn gryfach nag erioed, felly fi’n falch iawn o’r gwaith mae’r pwyllgor blaenorol wedi’i wneud. Gwaith tu ôl i’r llenni doedd pobol ddim yn ei weld neu’n ei gydnabod, a diolch i’r gwaith hwnnw, mae seiliau’r mudiad yn gryf iawn.”

Y pwyllgor

Y pwyllgor newydd yw Siôn Jobbins (Cadeirydd), Cian Ciarán (Is-gadeirydd), Hedd Gwynfor (Ysgrifennydd), Gwyn Llewelyn (Trysorydd), Ifor ap Dafydd, Dilys Davies, Aran Jones, Bethan Siân Jones, Huw Marshall, Chantel Mathias, Mirain Llwyd Owen a Julian Hughes Watts.

Dim ond Dilys Davies a Gwyn Llewelyn o blith y pwyllgor blaenorol sy’n aros.

Mae Siôn Jobbins yn dweud nad oedd ganddo farn gref y naill ffordd neu’r llall am y nifer o aelodau ar y pwyllgor, ac mai’r peth pwysig oedd cynnal “trafodaeth ystyrlon”.

Ond mae’n cydnabod ei bod yn bwysig nad oedd y pwyllgor “yn rhy fawr fel ei fod yn troi mewn i eliffant mawr sy’n dod i benderfyniadau”.

Mae’r pwyllgor wedi’i dorri o 16 i 12, ac mae Siôn Jobbins yn dweud bod nifer y wynebau newydd yn y cyfarfod yn galonogol ar gyfer y dyfodol.

“Oedd e’n wych mynd i’r cyfarfod ddoe, a hanner y bobol, do’n i ddim yn eu hadnabod nhw. Dwi wedi bod yn y mudiad cenedlaethol ers 30 o flynyddoedd. Oedd e mor braf gweld pobol doeddwn i ddim yn gwybod pwy oedden nhw, erioed wedi’u gweld nhw o’r blaen.

“Oedd e’n brofiad braf iawn gweld Cymry Cymraeg, Cymry di-Gymraeg a phobol sy ddim hyd yn oed yn Gymry yn y mudiad. Oedd hwnna’n arwydd o sut mae Yes Cymru yn tanio dychymyg pobol ac yn rhoi lle i bobol sy ddim o reidrwydd eisiau gwneud pethau sy’n bleidiol wleidyddol ond yn teimlo’n gryf am annibyniaeth.”

Grwpiau lleol

Ond yn ôl Siôn Jobbins, mae angen rhoi mwy o bwyslais ar y grwpiau lleol er mwyn tyfu’r mudiad.

“Beth sydd eisiau nawr yw bo ni’n siarad llai gyda’n hunain ac yn siarad mwy gyda phobol Cymru sydd yn edrych am atebion i broblemau,” meddai.

“Mae’r cyfansoddiad yn gweithio’n gliriach i bobol, ond heb newid anferth chwaith. Mae pobol yn lleol yn gallu dechrau eu grwpiau, a chefnogaeth ganolog ar gael ar ffurf deunydd, taflenni ac yn y blaen i’w helpu.

“Mae Yes Cymru yn dibynnu ar bobol gyffredin i benderfynu bo nhw â’r gallu i newid cwrs Cymru. Mae’n dechrau o’r gwaelod lan a dyna lle mae ei lwyddiant a dyna fydd e’n parhau i’w wneud.

“Mae San Steffan yn ‘con’. Gwleidyddiaeth San Steffan sydd wedi cadw Cymru’n dlawd. Mae gwleidyddion sy’n dal i gredu yn y system yna.

“Y sialens i ni nawr yw cael y neges drosodd fod Cymru’n gallu bod yn wlad fwy llewyrchus, yn decach ac yn hapusach pe bai’n annibynnol yn hytrach na bod yn rhanbarth o Brydain.”

Radio Yes Cymru

Prif ffocws Siôn Jobbins fel aelod o Yes Cymru yw datblygu gorsaf radio’r mudiad, Radio Yes Cymru, fel llais cryf i Gymru.

Mae’r orsaf yn darlledu’n ddwyieithog, ac mae am weld hynny’n parhau, meddai.

“Dwi eisie bo ni’n parhau â’r radio a’i fod e’n tyfu, bod pobol yn rhoi eu llaw lan ac yn edrych ar ôl awr y mis neu ddeufis o Gaerdydd, Abertawe, Wrecsam neu Fangor, beth bynnag yw eu diddordeb – comedi, miwsig neu trafod papurau newydd neu sgyrsiau gyda ffrindiau a bo ni’n creu lleisiau newydd.

“Beth hoffwn i weld nawr yw fod Yes Cymru’n rhoi adnoddau mewn i hwn ac yn talu am hysbysebion i hyrwyddo’r peth.

“Dyn ni yn erbyn anghenfil San Steffan a Phrydeindod a chyfalafiaeth Brydeinig, sy’n anghenfil anferth i ni frwydro yn ei herbyn. Mae angen i ni wneud popeth i gael ein llais ni allan yna i bobol Cymru gael ei glywed.”