Bu farw dyn mewn gwrthdrawiad ar yr A470 ger Aberhonddu fore heddiw (dydd Sadwrn, Rhagfyr 8).

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad rhwng car Ford Focus glas a lori Man wen ar y ffordd rhwng Llyswen a Phontybat am oddeutu 5.45yb.

Bu farw gyrrwr y Ford Focus yn y fan a’r lle, ac mae ei deulu’n cael cefnogaeth gan yr heddlu.

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio am wybodaeth.