Mae gwaith dadleuol o godi postion diogelwch ar balmant y stryd fawr yn Llanbedr Pont Steffan wedi gorfod cael ei ohirio am gyfnod oherwydd digwyddiad Nadoligaidd yn y dref.

Bwriad Cyngor Ceredigion yw codi rhes o bostion pren ar hyd Stryd y Coleg er mwyn atal pobol rhag gyrru neu barcio ar y palmant.

Ond mae golwg360 wedi cael cadarnhad gan Siambr Fasnach eu bod nhw wedi gofyn i Gyngor Ceredigion atal y gwaith am y tro er mwyn i’r noson o siopa hwyr yn y dref heno (Rhagfyr 6) fynd yn ei blaen.

Mae’r gwaith wedi ennyn ymateb cymysg gan rai o fusnesau’r dref, gyda rhai’n credu bod y postion yn achosi rhwystr, ac eraill yn eu croesawu oherwydd eu bod yn diogelu cerddwyr.

“Trafferthion”

Yn ôl Angharad Price o siop Gwilym C Price ei Fab a’i Ferched, mae’r postion yn mynd i achosi “trafferthion” iddyn nhw fel busnes, yn enwedig wrth dderbyn cyflenwadau.

“Dydyn nhw [Cyngor Ceredigion] ddim yn ein cefnogi ni,” meddai. “Ry’n ni’n teimlo fel bod popeth yn mynd yn ein herbyn.

“Pan mae deliveries yn dod, mae Cerdin [y brawd] yn gorfod mynd â’r fan mas o’r dre’ achos dyw loris mawr ddim yn gallu tynnu mewn.

“Does dim mynediad gyda ni yn y cefen, a dyw loris mowr ddim yn gallu dod rownd achos bod linelle double yellow yn fan’ny.”

Diogelu cerddwyr

Ond dywed perchennog busnes arall ar yr un stryd, Geraint Harries o Compass Supplies, ei fod wedi newid ei farn ynghylch y postion, gan fod rhai gyrwyr yn mynnu gyrru ar y palmant a pharcio arno.

“Ro’n i’n meddwl y bydde fe ddim yn mynd i wneud Llanbed yn groesawgar i bobol sy’n dod i mewn i’r dre’,” meddai.

“Ond o ran diogelwch pobol sy’n cerdded, dw i wedi altro fy marn, oherwydd mae gyrwyr jyst yn tynnu ar y palmant ac yn parcio fel maen nhw moyn.”