Mae dynes o Benarth ger Caerdydd wedi marw ar ôl cael anafiadau difrifol tra oedd hi’n teithio ar drên rhwng Caerfaddon a Keynsham yn Lloegr.

Mae lle i gredu bod y ddynes, 28, wedi cael ei hanafu ar ôl iddi bwyso allan trwy ffenestr y trên a tharo ei phen.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw toc wedi 10yh nos Sadwrn, ond er gwaethaf ymdrechion i’w hachub, bu farw’r ddynes yn y fan a’r lle.

Yn ôl Heddlu Trafnidiaeth Prydain, dyw ei marwolaeth ddim yn cael ei thrin fel un amheus, ac mae ei theulu wedi cael gwybod am y digwyddiad.

Mae’r ymchwiliad yn parhau.