Wrth i’w gyfnod yn Brif Weinidog Cymru ddirwyn i ben, mae Carwyn Jones yn dweud bod y wlad “mewn gwell cyflwr” nag oedd hi pan olynodd ef Rhodri Morgan yn 2009.

Fe fyddai ei feirniaid yn wfftio hynny, gan ddweud bod safon addysg a’r Gwasanaeth Iechyd wedi gwaethygu.

Ond yn ôl Carwyn Jones mae Cymru wedi magu mwy o hyder yn ystod ei gyfnod wrth y llyw.

Wrth edrych yn ôl, mae’n tynnu sylw at refferendwm 2011 – pleidlais a alluogodd Cymru i ddeddfu mewn 20 o feysydd heb orfod gofyn am ganiatâd Llywodraeth San Steffan.

“Roeddwn yn falch o gyfnod 2011, oherwydd roeddwn i wedi bod yn y job ers blwyddyn a chwarter bryd hynny,” meddai. “Roeddwn yn falch i gael y refferendwm hynny mor sydyn.

“Ac wrth gwrs, wnaethon ni ennill mor rhwydd o gymharu â [refferendwm datganoli] 1997… roedd hwnna’n gam mawr ymlaen.

“Petasech wedi dweud wrtha i yn 1999 y byddwn i’n dod yn Brif Weinidog ac yn gadael y rôl gyda Senedd sy’n medru codi trethi, a hefyd yn gallu creu mesurau a deddfau, mi fyddwn i wedi synnu.

“Ond mae’n dangos pa mor bell rydym ni wedi dod.”

“Dangos ei bod yn bosib defnyddio’r Gymraeg”

Ag yntau’n Gymro Cymraeg a gafodd ei fagu tu allan i gadarnleoedd yr iaith, mae Carwyn Jones yn bwrw golwg yn ôl ar ei esblygiad ieithyddol gyda balchder.

“Dechreuais i yn y Cynulliad yn 1999 fel rhywun oedd yn hollol ddihyder yn Gymraeg,” meddai.

“Doeddwn i ddim wedi mynd i ysgol Gymraeg. Roeddwn i’n gyfarwydd gyda siarad Cymraeg yn y tŷ, ond roedd sefyll ar fy nhraed a thraddodi araith yn Gymraeg yn beth mawr i fi…

“Dw i’n gobeithio fy mod wedi rhoi cyfle i bobol feddwl ei fod yn bosib i rywun sy’n siarad yr un Cymraeg â fi, i siarad Cymraeg yn gyhoeddus heb newid y fath o Gymraeg maen nhw’n siarad.”