Mae’r heddlu wedi cyhoeddi enw’r dyn 90 oed fu farw yn dilyn damwain traffig yng Ngheredigion dros y penwythnos.

Bu farw Barrie John Taylor o Flaenporth ar ôl cael ei daro gan gar ar yr A487 ger y pentref am tua 2:45 ddydd Sadwrn (Tachwedd 24).

Mewn teyrngedau iddo, mae ei deulu’n ei ddisgrifio fel dyn “adnabyddus ac uchel ei barch”.

“Hoffem ddiolch i bawb, yn enwedig y gymuned leol a chymdogion am eu help a’u cefnogaeth yn ystod y cyfnod anodd hwn,” meddai’r datganiad.

“Roedd Barrie yn ddyn adnabyddus ac uchel ei barch o fewn y gymuned, ac fe fydd yn cael ei golli gan bawb.