Dylai “rheol lem” gael ei chyflwyno er mwyn rhwystro enwau Cymraeg rhag cael eu newid.

Dyna farn ymgyrchydd o Lanberis sy’n pryderu bod enw hen adeilad yn ei ardal ar fin cael ei ddisodli gan enw Saesneg.

Mae Yr Helfa  yn sefyll wrth droed mynydd Moel Cynghorion, ac ar un adeg roedd moch gwyllt yn cael eu hela ar y tir o’i amgylch, yn ôl Ken Jones.

Erbyn heddiw mae’r hen adeilad yn gartref i fusnes o’r enw Crashpad Lodges, ac wedi cael ei droi’n llety i heicwyr.

Mae Ken Jones yn ofni y gallai ‘Crashpad Lodges’ ddisodli’r enw ‘Yr Helfa’, ac mae’n pryderu am oblygiadau hynny i’r ardal.

Newid

“Mae pentref Llanberis wedi newid yn hollol,” meddai wrth golwg360. “Erbyn hyn, mae tua 70% o blant yn yr ysgol yn dod o deuluoedd Saesneg. Mae’n ofnadwy yma.

“Mae’r lle wedi troi i gyd. Maen nhw’n symud mewn ac yn gwneud beth fynnan nhw. Mi ddylai fod yna gyfraith gwlad gyda newid enw. I newid yr eiddo yn y parc, rhaid cael caniatâd cynllunio.

“A dyna beth dw i ddim yn deall. Mi ddyylai bod yna reol lem – bod y rhain ddim yn cael newid ein henwau ni.”

Mae perchennog y busnes wedi dweud wrth golwg360 mai ‘Yr Helfa’ yw enw’r adeilad o hyd, ac wedi gwrthod rhoi sylw pellach.

Papur bro yn codi’r ddadl

Daw sylwadau Ken Jones wedi i erthygl o’i bapur bro leol Eco’r Wyddfa ennyn tipyn o ymateb ar gyfryngau cymdeithasol.

‘Dileu Enw Cymraeg’ yw enw’r darn ac mae’r awdur yn nodi bod gwefan Crashpad Lodges yn “awgrymu’n gryf mai [Yr Helfa] oedd yr enw, ac nad dyna fydd yr enw o hyn ymlaen.”

Mewn neges ar Twitter mae’r Cyflwynydd BBC Radio Cymru, Aled Hughes, yn tynnu sylw at yr erthygl gan nodi: “Mae’n rhy hwyr dydi, go iawn.”

Mae’r diddanwr y Welsh Whisperer, yn nodi ar y wefan bod “angen cyfraith ar hwn” tra bod y nofelydd Annes Glynn wedi sgwennu cerdd am y mater.

Cefndir

Mae yna gynigion wedi bod cyn hyn i gael deddfwriaeth i rwystro newid enwau ond fe benderfynodd y Llywodraeth bod gormod o anawsterau cyfreithiol.

Mae cofrestr wedi ei sefydlu i gofrestru enwau adeiladau hanesyddol, er mwyn cofnodi’r enwau gwreiddiol, hyd yn oed os can’ nhw eu newid.