Mae tuag un o bob cant o bobol Cymru yn diodde’ oherwydd problemau gyda gamblo a mwy na thair gwaith hynny mewn peryg o fod.

Dyna ffigurau a gafodd eu datgelu gan Aelod Seneddol yn ystod dadl yn Nhŷ’r Cyffredin ddoe er mwyn cyflymu’r broses o gyfyngu ar beiriannau gamblo.

Yn ôl yr amcangyfri’ swyddogol, meddai, mae gan 27,000 o bobol yng Nghymru broblemau gamblo ond, yn ôl y Comisiwn Gamblo, mae’r gwir ffigurau’n uwch.

Mae yna amcangyfri’ hefyd fod 95,000 o bobol Cymru mewn peryg o gael problemau o’r fath, sy’n gallu arwain at afiechyd corfforol a meddyliol, dyledion a chwalu perthynas.

‘Grym egwyddor’

Roedd Patricia Gibson o’r SNP yn siarad mewn dadl ar y Gyllideb pan ildiodd y Llywodraeth i alwadau i gyflymu’r broses o gyfyngu ar beiriannau gamblo sydd mewn siopau betio – fixed odds betting terminals – ac o osod treth uwch ar gamblo o bell.

Eu hymgais nhw i ohirio’r cynnydd oedd wedi arwain at ymddiswyddiad y cyn-Ysgrifennydd Chwaraeon, Tracey Crouch.

Fe gafodd AS Dwyrain Abertawe, Carolyn Harris, ei chanmol yn ystod y ddadl am ei gwaith yn ymgyrchu yn y maes – hi yw Cadeirydd y Grwp Pob-Plaid ar Beiriannau FOGT.

Wrth siarad ei hun, fe roddodd rybudd i’r Llywodraeth: “Alla’ i ddim ond dweud un peth; dysgwch o hyn a pheidiwch byth â dibrisio grym egwyddor.”