Mae aelod seneddol Ceidwadol o Gymru wedi gwrthod dweud a yw wedi anfon llythyr yn galw am her yn erbyn y Prif Weinidog, Theresa May.

David Jones, AS Gorllewin Clwyd, ydi un o’r gwrthryfelwyr posib a allai alw am etholiad i gael arweinydd newydd.

Ond wrth i asiantaeth newyddion y Press Association geisio cael gafael ar enwau’r holl ASau sydd wedi galw am ymddiswyddiad Theresa May, mae David Jones wedi gwrthod dweud y naill ffordd na’r llall.

Dim ond 23 yn cyfadde’n gyhoeddus

Mae yna 23 o ASau Ceidwadol wedi dweud yn gyhoeddus eu bod wedi anfon llythyr o ddiffyg hyder – mae angen 48 cyn y bydd y Pwyllgor 1922 sy’n cynrychioli aelodau mainc gefn y blaid yn galw am etholiad.

Does yr un aelod seneddol arall o Gymru ymhlith y 23 chwaith a’r amheuaeth yw mai David Jones _ Brexitiwr amlwg – yw un o’r mwya’ tebygol.

Fe ddywedodd David Jones wrth PA nad oedd wedi cyhoeddi ei benderfyniad.