Mae’r heddlu’n apelio am dystion yn dilyn lladrad arfog mewn siop yn nhref lan-môr Prestatyn yn Sir Ddinbych yn gynnar neithiwr.
Aeth dau ddyn i mewn i siop Londis ar Ffordd Isa yn y dref tua 5.35pm gan fygwth y staff a mynd oddi yno gyda swm o arian i gyfeiriad canol y dref.
Roedd y ddau â gorchudd am eu hwynebau, gydag un yn gwisgo tracsiwt llwyd a’r llall â hwdi glas a throwsus tri-chwarter glas tywyll.
Meddai’r Ditectif Ringyll Paul Terry:
“Cafodd y gweithiwr siop ei ddychryn gan y digwyddiad, ond drwy drugaredd chafodd neb eu hanafu. Rydym yn apelio ar rywun a oedd o gwmpas ar y pryd neu a allai fod wedi gweld rhywun yn ymddwyn yn amheus yn yr ardal i gysylltu â’r heddlu.
“Mae ein hymchwiliadau’n parhau.”