Mae Aelod Cynulliad o ogledd Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnal adolygiad annibynnol brys i’r drefn o ddyfarnu graddau TGAU Saesneg.

Ddechrau’r wythnos, fe ddywedodd consortiwm addysg GwE, sy’n cynrychioli rhieni, penaethiaid ysgolion ac arweinwyr addysg y cynghorau sir yn y gogledd, fod athrawon wedi “colli hyder” yn CBAC a Chymwysterau Cymru – dau gorff sy’n gyfrifol am arholiadau yng Nghymru.

Maen nhw’n honni bod disgyblion a safodd yr arholiad TGAU Saesneg yn haf 2018 dan anfantais, o gymharu â’r rhai a safodd yr un arholiad flwyddyn ynghynt, oherwydd newidiadau i’r meini prawf.

Mae Cymwysterau Cymru a CBAC wedi ymateb trwy ddweud eu bod nhw’n hapus â’r system bresennol o ddyfarnu graddau.

“Colli hyder”

“Rwy’n ymwybodol iawn o bryderon rhieni, athrawon ac arweinwyr addysg yng ngogledd Cymru o ganlyniad i ganlyniadau arholiad TGAU Saesneg,” meddai Siân Gwenllian, llefarydd Plaid Cymru ar Addysg a’r Gymraeg.

“Mae’n ymddangos bod plant yn y gogledd a safodd yr arholiadau yn haf 2018 wedi cael tro gwael.

“Gallai hyn fod wedi effeithio ar hyd at 700 o blant – plant a allasai fod wedi cael gradd C neu’n uwch petaent wedi eu trin yn yr un modd â phlant a safodd yr arholiadau yn 2017.

“Mae hyn yn effeithio ar eu dewisiadau am yrfa yn y dyfodol, ac y mae hyn yn amlwg yn annheg.

“Mae honiad difrifol arall fod athrawon yng ngogledd Cymru wedi colli hyder mewn dau gorff – Cymwysterau Cymru a CBAC.”

Y ffiniau gradd yn “gywir”

Mae Llywodraeth Cymru wedi gwrthod ymateb gan ddweud mai mater ar gyfer Cymwysterau Cymru yw hwn.

Yn ôl Cymwysterau Cymru wedyn, maen nhw wedi cynnal ymchwiliad i’r pryderon, cyn dod i’r casgliad bod y ffiniau graddau gan CBAC yn gywir.

“Ein cyfrifoldeb fel y corff annibynnol sy’n rheoleiddio cymwysterau yw cynnal y safon genedlaethol,” meddai llefarydd ar ran y corff.

“Gwnaethom ymchwilio i’r pryderon hyn pan gawsant eu codi ym mis Medi a chyhoeddi adroddiad manwl ar y pryd.

“Ar ôl dadansoddi’r holl dystiolaeth a fu ar gael yn drwyadl, daethom i’r casgliad bod y ffiniau gradd wedi’u gosod yn gywir gan CBAC, a bod y safon genedlaethol ar gyfer TGAU Saesneg Iaith yn gyson â’r llynedd.”

Ymateb CBAC

Dywed Roderic Gillespie, Prif Weithredwr CBAC: “Ein prif nod yw sicrhau bod ymgeiswyr yn derbyn y graddau maen nhw’n eu haeddu.

“Mae gennym hyder yn ein prosesau dyfarnu, ac mae’r rheoleiddwyr yng Nghymru (Cymwysterau Cymru) wedi dilysu hynny.

“Mae gennym brofiad dyfarnu helaeth iawn ledled y Deyrnas Unedig a dilynwn brosesau dyfarnu sy’n deg a thryloyw.

“Dylai dysgwyr, athrawon, rhieni ac arweinwyr fod yn ffyddiog yn y graddau yr ydym yn eu dyfarnu.”