Mae Cymraes wedi holi’r Prif Weinidog ynghylch ei chynlluniau ar gyfer sicrhau y bydd meddyginiaeth ar gael yn rhwydd yn dilyn Brexit.

Wrth ateb Julia o Lanelli fe ddywedodd Theresa May fod “camau cywir” wedi’u cymryd er mwyn sicrhau y bydd meddyginiaethau ar gael yn y Deyrnas Unedig yn dilyn Brexit.

Dyna ddywedodd y Prif Weinidog fore dydd Gwener (Tachwedd 16) wedi iddi gael ei herio ar orsaf radio LBC (Cwmni Darlledu Llundain).

Wrth siarad â’r Prif Weinidog, dywedodd Julia ei bod yn anabl ac yn gaeth i’w gwely, a’i bod yn ddibynnol ar feddyginiaeth i’w chadw’n fyw.

“Am ba mor hir bydd yn rhaid i bobol sâl boeni am eu meddyginiaeth?” meddai’r ddynes o Lanelli.

Ymateb Theresa May oedd bod cynlluniau wrth gefn yn cael eu paratoi er mwyn sicrhau cyflenwad o feddyginiaeth petasai Brexit yn digwydd heb ddêl.

“Mae’r Adran Iechyd wrthi’n gwneud yn siŵr y bydd meddyginiaethau yn dal i fod ar gael,” meddai’r Prif Weinidog.

“Mae’r adran yn cymryd y camau cywir er mwyn gwneud yn siŵr bod meddyginiaethau ar gael i bobol, hyd yn oed os oes yna broblemau ar y ffin.”