Diffyg ymgynghori â phleidiau – a llywodraethau datganoledig – sydd wedi arwain at helyntion diweddaraf Brexit, yn ôl cyn-Arweinydd Plaid Cymru.

Mae Dafydd Wigley, aelod o Dŷ’r Arglwyddi, yn galw’r sefyllfa yn “smonach” a’n atseinio safbwynt ei blaid tros y mater.

Pryder Plaid Cymru yw bod llywodraethau Cymru a’r Alban wedi cael triniaeth israddol, tra bod Gogledd Iwerddon – a’i hopsiwn i aros yn y farchnad sengl – yn cael ei thrin ffafriol.

Mae’r cyn-Arweinydd yn dweud ei fod wedi codi’r mater yn yr uchel dŷ, a bod cynrychiolydd o Lywodraeth San Steffan wedi anwybyddu’i gais.

“Doedd y gweinidog oedd yn ateb ddim yn hoffi’r cwestiwn felly wnaeth hi ateb cwestiwn gwahanol ynglŷn â’r undeb tollau!” meddai wrth golwg360.

“Does yna ddim ymgynghoriad o gwbl wedi bod ef Llywodraeth Cymru ynglŷn â chynnwys y papur gwyn yma. Ac mae hynna’n gwbl groes i beth oedden nhw wedi addo ar ddechrau’r broses.

“… Roedd dyn yn disgwyl i hyn fod yn digwydd oherwydd doedd yn a ddim sail drawsbleidiol effeithiol i’r drafodaeth oedd gan y llywodraeth.”

Diwrnod o helynt

Ar brynhawn dydd Mercher (Tachwedd 14) cyhoeddodd y Prif Weinidog, Theresa May, bod ei chabinet yn cefnogi ei chynllun drafft tros adael yr Undeb Ewropeaidd.

Ond, ar dydd Iau (Tachwedd 15) mae wedi dod yn dra amlwg nad oedd y cabinet yn hollol fodlon.

Mae llu o weinidogion bellach wedi camu o’r neilltu, gan gynnwys yr Ysgrifennydd Brexit, Dominic Raab; a’r Gweinidog Gogledd Iwerddon, Shailesh Vara.