Mae 7,500 milltir o lwybrau beicio gwledydd Prydain yn anaddas i blant 12 oed, yn ôl adroddiad newydd.

Mae’r llwybr beicio rhwng Y Fflint a Chei Conna wedi ei gynnwys yn y llwybrau sydd wedi eu datgan yn anaddas i blant.

Mewn dadansoddiad gan elusen cludiant Sustrans o’r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol mae problemau yn cynnwys cerbydau cyflym, gormod o rwystrau ac arwynebau ansefydlog ar hyd y system 16,500 milltir.

Wedi ei gynnwys yn yr adroddiad – ‘Llwybrau i Bawb’ – mae Llwybr Cenedlaethol 5 rhwng Y Fflint a Chei Conna yng ngogledd Cymru.

Ar hyn o bryd, mae’r llwybr yn arwain beicwyr at ran gyflym o’r briffordd rhwng gorsaf drên Y Fflint a Chei Conna.

Byddai llwybr newydd ar hyd yr arfordir yn datrys hyn, meddai’r elusen Sustrans.

Maen nhw’n rhybuddio bod angen buddsoddiad nawr i rwystro llwybrau’r rhwydwaith rhag dirywio ymhellach.

 “Gweledigaeth uchelgeisiol”

Wrth gyflwyno’r adroddiad yn y Senedd, dywedodd Xavier Brice, prif weithredwr Sustrans:

“Rydym eisiau adeiladu ar ei lwyddiant a gwneud y rhwydwaith yn fwy diogel ac yn fwy hygyrch i bawb.

“Mae ein hadroddiad Llwybrau i Bawb yn gosod gweledigaeth uchelgeisiol i wneud y rhwydwaith yn rhydd o draffig ac yn ddiogel i blentyn 12 oed i ddefnyddio ar eu pen eu hunain.”

Wrth gydweithio gyda chynghorau lleol, mae Sustrans yn gobeithio darparu 55 cynllun ar draws y DU yn ymrwymo i wella arwyddion i ail-ddylunio a chreu llwybrau di-draffig erbyn 2023.

Wrth ymateb i’r adroddiad meddai Steve Jones, Prif Swyddog Cyngor Sir y Fflint ar gyfer Strydoedd a Thrafnidiaeth:

“Yn ddiweddar, mae Cyngor Sir y Fflint wedi uwchraddio rhan o Lwybr Beicio Cenedlaethol 5 rhwng Rockcliffe a Chroes Atti i ddarparu llwybr 3 metr o led oddi ar y ffordd. Mae astudiaeth yn cael ei wneud ar hyn o bryd i ymchwilio i ddarpariaeth beicio oddi ar y ffordd o Groes Atti i Orsaf Reilffordd y Fflint. ”