Fe all Plaid Cymru gael eu siomi pe bai naill ai etholiad cyffredinol neu etholiad y Cynulliad yn cael eu cynnal cyn hir, yn ôl arolwg barn newydd.

Daw hyn er gwaethaf y cyhoeddusrwydd mae arweinydd newydd Plaid Cymru, Adam Price, wedi’i dderbyn ers cael ei ethol i’r swydd fis diwethaf.

Yr arolwg barn newydd yw’r un diweddaraf gan YouGov ar ran ITV Cymru a Phrifysgol Cymru ers dechrau mis Gorffennaf, gyda 1,031 o bobol yn cael eu holi rhwng Hydref 30 a Thachwedd 2.

Mae’n dangos nad oes yna lawer o newid wedi bod yng nghefnogaeth y pleidiau dros yr haf, er bod y Ceidwadwyr wedi ennill tir sylweddol – yn enwedig yn y Cynulliad.

San Steffan – newid mewn tair sedd?

Yn ôl y gefnogaeth i’r pleidiau yn San Steffan, mae disgwyl i dair sedd newid dwylo yng Nghymru pe bai etholiad cyffredinol yn fuan, yn ôl yr arolwg.

Mae hynny’n cynnwys y Ceidwadwyr yn cipio Wrecsam a Dyffryn Clwyd oddi ar Lafur, a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn ailennill Ceredigion oddi ar Blaid Cymru:

  • Llafur: 42% (-2) – 26 sedd
  • Ceidwadwyr: 33% (+2) – 10 sedd
  • Plaid Cymru: 10% (-3) – 3 sedd
  • Democratiaid Rhyddfrydol – 7% (+2) – 1 sedd
  • UKIP – 4% (+1) – 0 sedd
  • Eraill – 3% (dim newid) – 0 sedd

Cynulliad – Ceidwadwyr yn ennill tir

O ran seddi etholaethol y Cynulliad, does fawr ddim wedi newid yng nghefnogaeth y pleidiau ers mis Gorffennaf, ar wahân i gwymp yng nghefnogaeth Plaid Cymru (-2) a chynnydd yng nghefnogaeth UKIP (+2).

Tebyg yw’r ffigyrau ar gyfer y seddi rhanbarthol hefyd, gyda Phlaid Cymru y tro hwn yn gostwng pedwar pwynt, a’r pleidiau eraill naill ai’n gweld ychydig o gynnydd (Ceidwadwyr, +1; Democratiaid Rhyddfrydol, +1; Eraill, +2) neu ddim newid o gwbl (Llafur a UKIP).

Byddai seddi’r Cynulliad yn edrych yn debyg i hyn wrth gyfuno’r canlyniadau:

  • Llafur Cymru: 29 sedd (25 etholaethol, 4 rhanbarthol)
  • Ceidwadwyr Cymreig: 18 sedd (8 etholaethol, 10 rhanbarthol)
  • Plaid Cymru: 11 sedd (6 etholaethol, 5 rhanbarthol)
  • UKIP: 1 sedd (1 rhanbarthol)
  • Democratiaid Rhyddfrydol: 1 sedd (1 rhanbarthol)

Her fawr Plaid Cymru

“Efallai mai’r blaid sydd â’r rheswm mwyaf i fod yn siomedig gyda chanlyniadau’r arolwg barn newydd yw Plaid Cymru,” meddai’r Athro Roger Awan-Scully o Ganolfan Llywodraethiant Cymru.

“Dyw’r cyhoeddusrwydd sylweddol sydd wedi cael ei ddenu gan yr arweinydd newydd, Adam Price, ddim wedi ennyn unrhyw fanteision etholiadol iddyn nhw.

“I’r gwrthwyneb, mae’r pôl piniwn hwn yn dangos faint o her wleidyddol sy’n wynebu darpar Brif Weinidog Plaid Cymru.”