Fe fydd ffermwr 56 oed o Ynys Môn, yn ymddangos yn y llys heddiw (Dydd Llun, Tachwedd 5) am wrthod talu’r ffi drwydded deledu.

Mae disgwyl i William Griffiths o Fodorgan alw am ddatganoli pwerau darlledu i Gymru yn y gwrandawiad llys yng Nghaernarfon heddiw.

Yn ol Cymdeithas yr Iaith fe fydd yn dadlau bod rheolaeth o Lundain yn “fygythiad i ddemocratiaeth Gymreig”.

William Griffiths yw’r ail unigolyn i wynebu achos llys am wrthod talu’r ffi drwydded deledu fel rhan o’r ymgyrch i ddatganoli pwerau darlledu i Gymru. Cafodd aelod arall o Gymdeithas yr Iaith, Heledd Gwyndaf, ei dedfrydu mewn achos yn Aberystwyth fis diwethaf.

Mae dros 70 o bobol yn gwrthod talu am eu trwyddedau teledu mewn ymdrech i drosglwyddo rheolaeth dros ddarlledu o San Steffan i Gymru.

Yn ôl arolwg barn gan YouGov a gyhoeddwyd y llynedd, mae 65% o bobol Cymru yn ffafrio datganoli darlledu i’r Senedd yng Nghymru.

“Cael ein boddi”

“Rwy’n bryderus iawn am y diffyg trafodaeth ar lefel Gymreig a sut mae hynny’n effeithio ar ein democratiaeth,” meddai William Griffiths cyn y gwrandawiad heddiw.

“Mae’r prif sianeli teledu a gorsafoedd radio yn darlledu am Loegr, o Loegr ac er lles Lloegr y rhan helaeth o’r amser – rydyn ni’n cael ein boddi gan ddarlledu sy’n niweidio ein democratiaeth Gymreig.

“Os nad yw pobol yn deall pwy sy’n gyfrifol am beth maen nhw’n gwneud, sut mae modd i ddemocratiaeth weithredu’n iawn?”

Mi fydd y bardd a’r canwr Geraint Lovgreen yn annerch rali o flaen y llys cyn y gwrandawiad bore ma.

Dywedodd ei fod yn “diolch o galon i William am ei safiad,” a’i fod “fel nifer o bobol eraill, hefyd yn gwrthod talu am y ffi drwydded deledu.”

Ychwanegodd Geraint Lovgreen: “Mae’r Gymraeg a democratiaeth Cymru yn dioddef yn ddifrifol o ganlyniad i gyfundrefn ddarlledu sy’n cael ei rheoli o San Steffan ar hyn o bryd. Byddai rheoli ein cyfryngau ein hunain yng Nghymru yn rhoi cyfle i ni weld ein hunain a’r byd drwy lygaid Cymreig.”