Wrth i bobol ddathlu gyda thân gwyllt heno (Dydd Llun, Tachwedd 5), mae’r RSPCA yn rhybuddio am yr effaith ar anifeiliaid anwes.

Roedd yr elusen wedi cael 152 o alwadau yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf gan bobol ar draws Cymru yn  poeni am effaith tân gwyllt ar eu hanifeiliaid anwes.

Mae’r RSPCA eisiau gweld defnydd tân gwyllt yn cael ei gyfyngu i ddyddiau traddodiadol fel noson Guto Ffowc, y Flwyddyn Newydd, Blwyddyn Newydd Tsieineaidd a Diwali.

Maen nhw hefyd yn cefnogi lleihau’r lefel sŵn caniataol.

Cyngor yr RSPCA  i bobol sydd ag anifeiliaid anwes yw peidio mynd a chŵn am dro ar ôl iddi dywyllu a chynnig mannau cuddio iddyn nhw er mwyn lleihau’r risg o achosi niwed. Maen nhw hefyd yn cynghori rhoi radio neu deledu ymlaen yn uchel fel nad yw’r anifeiliaid yn clywed sŵn y tân gwyllt.

Mae mwy o alw wedi dod yn wyneb holiadur oedd yn dangos bod 38% o gŵn yn dangos arwyddion o ofn tuag at synau uchel, fel tân gwyllt.

“Rhoi cyfle i berchnogion baratoi”

 “Gall tân gwyllt arwain at bryderon lles difrifol ymysg llawer o anifeiliaid, ond mae ffobia sŵn yn un sy’n gallu cael ei drin,” meddai Lisa Hens, arbenigwr lles anifeiliaid y RSPCA.

“Mae rhoi cyfle i berchnogion baratoi at hyn yn gam allweddol i leihau’r risgiau yma,” ychwanegodd.

“Nid ydym yn galw am gyfyngiad i arddangosfeydd cyhoeddus – ond yn hytrach, rydym am weld diwedd y swn annisgwyl na all perchnogion baratoi amdano.

“Credwn y bydd y camau allweddol hyn yn sicrhau bod yr achlysur yn fwy diogel i’n ffrindiau anwes.”