Mae Heddlu’r Gogledd yn ymchwilio i adroddiadau o ffrwydrad cyn lladrad yn siop Co-op Deganwy fore heddiw (dydd Sul, Tachwedd 4).

Cafodd cefn peiriant arian ei ddwyn yn y digwyddiad am oddeutu 4 o’r gloch.

Mae cryn ddifrod i’r adeilad.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.