Mae Heddlu Dyfed Powys yn apelio am wybodaeth ar ôl i blentyn 4 oed farw mewn gwrthdrawiad ger Caerfyrddin nos Sadwrn.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A40 i’r gorllewin o Gaerfyrddin tua 7.50yh nos Sadwrn, Hydref 27.

Roedd dau gerbyd yn gysylltiedig â’r digwyddiad – Nissan Micra glas a Skoda Fabia du.

Dylai unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad gysylltu â heddlu Caerfyrddin ar 101.