Bydd ffermwr o Ynys Môn yn mynd gerbron llys ddydd Llun, (Tachwedd 5) am wrthod talu’r ffi am drwydded deledu.

Mae’n rhan o ymgyrch i ddatganoli grymoedd darlledu i Gymru a bydd hwn yn nodi’r ail achos llys i’w gynnal fel rhan o’r ymgyrch.

Mae William Griffiths o Bodorgan yn un o 70 o bobol sy’n cynnal boicot ar hyn o bryd, ac mae ganddo resymau cryf dros ei safiad.

“Cael ein boddi”

Mae’n dweud wrth golwg360 mai’r prif reswm dros ei benderfyniad yw oherwydd ein bod yn “cael ein boddi gan be’ sy’n dod allan o Lundain”.

“Lle mae democratiaeth yn sefyll yng Nghymru ar hyn o bryd? Mae refferendwm Brexit wedi cymryd lle, mi oedd etholiadau San Steffan wedi cymryd lle a dydan ni ddim yn cael trafodaeth ar lawr gwlad Cymru am ddim un o’r rhain.

“Mae o i gyd yn dod yn rhan o sut ydan ni yng Nghymru yn gweld ein hunain, sut ydan ni’n gweld y byd, a sut mae’r byd yn ein gweld ni.”

Wrth drafod ei barodrwydd i dalu dirwy, dywed ei fod yn ei chymryd hi “un cam ar y tro” ond ei fod yn rhywbeth y mae’n “teimlo ddigon cryf drosto i wneud”.

Bydd y gwrandawiad am 9.30y.b ar Dachwedd 5 yn Llys Caernarfon.