Mae tad i faban a fu farw wedi i wal gwympo am ei phen y llynedd, wedi disgrifio marwolaeth ei blentyn fel golyfa o ffilm arswyd.

Bu farw Pearl Black, blwydd oed, ym Merthyr Tudful ar Awst 6, 2017. Roedd car gwag wedi taro’n erbyn y wal, ac mae profion wedi dangos nad oedd brêc llaw’r cerbyd wedi ei dynnu’n iawn.

Dywedodd Paul Black, 50, wrth y cwest heddiw (dydd Iau, Hydref 25) ei fod ef a’i ferch a’i fab Ace Black, yn dychwelyd o’r parc pan ddigwyddodd y damwain.

“Clywais sŵn rwber ar yr hewl ac mi welais Range Rover yn dod yn syth amdanon ni,” meddai. “Gwaeddais arno i stopio, achos ro’n i’n credu bod rhywun yn gyrru’r car…

“Taflais Ace mas o’r ffordd a thrïais i gamu o flaen Pearl i’w hamddiffyn,” meddai wedyn. “Ond wedyn gwyrodd y car am y wal, a syrthiodd y wal am ben Pearl.

“Wnes i drio ei hachub, ond mi welais y bywyd yn llifo allan ohoni. Ro’n i’n gwybod yn syth ei bod hi wedi marw. Rwy’n cofio gweiddi, ‘Mae hi wedi mynd. Fy maban annwyl’.”

Brêcs

Mae perchennog y car, Andrew Williams, 51, yn cydnabod nad oedd wedi cloi’r brêc yn iawn.

Cafodd Pearl Black ei chludo i Ysbyty Tywysog Siarl ym Merthyr Tudful lle y cadarnhaodd meddygon ei bod eisoes wedi marw cyn cyrraedd.

Fe gafodd Ace Black – a oedd yn wyth mis oed ar y pryd – ei anafu, ond bellach mae wedi gwella’n llwyr.