Mae un o gynghorwyr Casnewydd yn cofio fel y daeth Aelod Seneddol gorllewin y ddinas yn “arwr” i bobol leol pan aeth cwmni hamperi Nadolig i’r wal.

Wrth i Paul Flynn gyhoeddi heddiw (dydd Iau, Hydref 25) ei fwriad i ymddeol, ar sail iechyd, yn y dyfodol agos, mae pobol y ddinas y bu’n cynrychioli rhan ohoni am 31 o flynyddoedd yn cofio ei ofal am y rhai di-rym.

Mae Debbie Harvey yn gynghorydd ar ward Alway yn y ddinas, ac mae’n cofio sut yr oedd teuluoedd ledled Cymru a thu hwnt ar eu colled pan aeth cwmni Farepak i drafferthion ariannol cyn y Nadolig yn 2006. Trwy’r cwmni hwnnw yr oedd modd iddyn nhw roi arian heibio bob wythnos er mwyn prynu hamperi neu dalebau i’w gwario ar anrhegion Nadolig.

“Fe siaradais i â Paul pan fethodd Farepak,” meddai Debbie Harvey wrth golwg360, “ac roedd e’n arbennig yr adeg hynny. Roedd e’n edrych ar ôl y bobol hŷn, yn enwedig. Roedd yna gymaint o ddryswch pan ddechreuodd pethau fynd o chwith i Farepak.

“Roedd Paul yno ymhlith pawb. Fe aeth ati’n chwim i gynnal cyfarfod, a chafodd hwnnw ei redeg yn dda. A wnaeth e sicrhau fod yna bobol yno i helpu’r bobol hŷn i ddeall beth oedd yn digwydd.”

Colled Casnewydd

Bydd Casnewydd ar ei cholled pan fydd yr Aelod Seneddol yn rhoi’r gorau iddi, meddai wedyn.

“Mae e wedi bod yn ased arbennig i Gasnewydd, ac mae e wedi gweithio’n galed yn ddi-baid. Bydd e’n golled i Gasnewydd pan fydd e’n rhoi’r gorau iddi… ond mae’n ddealladwy ei fod eisie ymddeol, o ystyried cyflwr ei iechyd.

“Mae wedi gwasanaethu Casnewydd yn dda iawn. “Mae wedi bod yn wleidydd cryf, mae’n ddi-flewyn ar dafod weithiau, ond dyna pam bod pobol yn dwlu arno fe! Dim lol.”