Mae cynghorydd lleol yn dweud bod damwain yn Sir Gaerfyrddin lle bu farw plentyn tair oed yn “drychineb lwyr”.

Cafodd yr heddlu eu galw toc cyn 4:30yp ddydd Sul (Hydref 21) yn dilyn adroddiadau bod plentyn wedi marw ar ôl cael ei daro gan gerbyd ar eiddo preifat ger Llanybydder.

Mae golwg360 yn deall bod y plentyn wedi marw o ganlyniad i ddamwain ar dir rhent ger Llanybydder, a bod y teulu’n dod o fferm Glyncoch yn ardal Gorsgoch.

“Mae pawb mewn sioc,” meddai Euros Davies, sy’n cynrychioli ardal Llanwenog ar Gyngor Ceredigion

“Bydde’r teulu byth wedi meddwl wrth fynd ymlaen â’u gwaith fel arfer, y bydden nhw ddim yn dod gartref heb eu mab nhw.

“Mae’n drychineb lwyr.”