Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi galw ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar y diwydiant amaeth yn “ffars”.

Daw hyn yn dilyn sylwadau’r Ysgrifennydd tros Faterion Amaeth, Lesley Griffiths, ym mhapur newydd y Farmers Guardian yr wythnos hon.

Mae ‘Brexit a’n Tir’ yn rhoi cyfle i ffermwyr leisio’u barn ar ddau gynllun newydd i ariannu’r sector amaethyddol ar ôl i wledydd Prydain adael yr Undeb Ewropeaidd.

Mae hyn yn golygu y bydd y cymorthdaliadau presennol, sy’n cael eu talu’n uniongyrchol i ffermwyr yn dibynnu ar faint o dir sydd ganddyn nhw, yn dod i ben.

Er bod undebau’r ffermwyr wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno system newydd sy’n debyg i’r un bresennol, dywed Lesley Griffiths y bydd yn rhaid cael gwared ar gymorthdaliadau uniongyrchol.

“Rydym wedi dweud yn glir na fyddwn ni’n cadw’r Cynllun Taliad Sylfaenol, oherwydd dydyn ni ddim yn credu mai dyna’r ffordd orau ymlaen, yn enwedig mewn byd wedi Brexit,” meddai’r Ysgrifennydd tros Faterion Amaeth yn y Farmers Guardian.

‘Anwybyddu ffermwyr Cymru’

 Yn ôl Andrew RT Davies, llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar faterion Amaeth, mae hyn yn brawf nad yw Llywodraeth Cymru am wrando ar leisiau’r ffermwyr, er gwaethaf cynnal ymgynghoriad.

“Dylai ymgynghoriad gael ei ddefnyddio i ystyried ac i wrando ar bryderon, ond mae Lesley Griffiths a Llywodraeth Cymru wedi dweud yn glir y byddan nhw’n bwrw ymlaen er gwaethaf barn  ffermwyr a’r adborth y maen nhw’n ei dderbyn,” meddai.

“Dyw hynny ddim yn ymgynghoriad, mae’n ffars ac mae’n dangos y dirmyg sydd gan y Blaid Lafur tuag at amaethyddiaeth a ffermwyr ledled Cymru.”