Mae Aelod Cynulliad y Ceidwadwyr Cymreig yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi mwy o gymorth i’r Eisteddfod Genedlaethol wrth iddi baratoi i ymweld â Llanrwst y flwyddyn nesaf.
Yn ôl Janet Finch-Saunders, Aelod Cynulliad Aberconwy, mae cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru i’r brifwyl wedi bod “braidd yn wan” yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gyda’r swm wedi gostwng i £697,000 ar gyfer y digwyddiad ym Mae Caerdydd eleni.
Mae’n dweud ymhellach mai ei dymuniad yw gweld tâl mynediad i’r maes yn cael ei ddileu eleni eto, er mwyn denu mwy o bobol i’r digwyddiad a’r ardal.
Mae hefyd am weld gorsaf drenau dros dro yn cael ei hadeiladu ger y maes yn Nyffryn Conwy.
‘Dileu rhwystr ariannol’
“Mae difrifoldeb y sefyllfa yn amlwg o ystyried bod yr Eisteddfod yn rhan allweddol o’r strategaeth i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050,” meddai Janet Finch-Saunders.
“Felly, er mwyn helpu’r Eisteddfod i hyrwyddo’r Gymraeg a chael effaith gadarnhaol ar gynulleidfa leol a byd-eang, rwy’n awyddus i weld rhwystr ariannol sylweddol yn cael ei ddileu, sef cost tocynnau.
“Roedd mynediad am ddim yn llwyddiant mawr ym Mae Caerdydd, felly pam na all Llywodraeth Cymru gefnogi’r un polisi yn Llanrwst?”
Mae golwg360 wedi gofyn i Lywodraeth Cymru am ymateb.