Mae wyth ardal yng Nghymru yn cael eu cyfrif ymhlith y gwaethaf o ran mynediad pobol at fwyd maethlon a ffres sy’n fforddiadwy.

Ymysg yr ardaloedd dan sylw mae Casnewydd, Caerdydd, Powys a’r gogledd-ddwyrain.

Maen nhw wedi’u cynnwys mewn adroddiad, wedi ei gyhoeddi gan gwmni Kellogg’s, sy’n ystyried y mynediad sydd gan bobol at fwydydd fforddiadwy a maethlon.

Yn ôl yr adroddiad, mae 1.2m o bobol ledled gwledydd Prydan yn byw mewn ardaloedd sy’n cael eu cyfri’n “ardaloedd anialwch”, lle nad oes modd iddyn nhw brynu bwyd o safon am bris rhesymol.

Mae’n rhaid i’r bobol sy’n byw yn yr ardaloedd hyn ddibynnu felly ar siopau drutach sy’n llai tebygol o werthu bwyd maethlon.

 “Effaith sylweddol ar iechyd”

“Mae’r ffigyrau hyn yn bryderus wrth iddyn nhw ddangos bod diffyg bwyd maethlon yn cael effaith sylweddol ar iechyd pobol, ac mae’n edrych yn debyg mai’r bobol dlotaf sy’n cael eu heffeithio,” meddai llefarydd ar ran Kellogg’s.

“Mae hwn yn broblem gymhleth ac mae angen i sefydliadau, sy’n cynnwys awdurdodau lleol ac elusennau, gydweithio â’i gilydd i feddwl am atebion i’w cymunedau lleol.

“Does dim un datrysiad penodol ar gyfer y cyfan, ond rydym yn gobeithio bod y map o’r ‘ardaloedd anialwch’ yn gam ymlaen a fydd yn cychwyn y sgwrs ar lefel lleol.”

Cymru

Ymhlith yr ardaloedd gyda’r ganran uchaf yng Nghymru o bobol sy’n methu cael mynediad at fwyd maethlon, fforddiadwy, am nad oes ganddyn nhw geir, mae:

  • Rhosnesni (Wrecsam) – 47.4%;
  • Bishpool, Llyswyry (Casnewydd) – 46.9%;
  • Y Rhyl – 40%;
  • Llaneirwg (Caerdydd) – 38.9%;
  • Rhymni, Towbridge (Caerdydd) – 38.9%;
  • Milffwrd, Faenor, Trehafren, Maesyrhandir (Y Drenewydd) – 28.7%;
  • Bryn-mawr, Pont-y-gof, Clydach – 28.4%;
  • Rhigos, Hirwaun, Pen-y-waun, Cefn Rhigos, Penderyn, Llwydcoed – 28.4%.