Mae disgwyl cawodydd trwm o law yng Nghymru dros y deuddydd nesa wrth i Storm Callum ymlwybro trwy’r Deyrnas Unedig.
Mae rhybudd tywydd melyn mewn grym yng ngogledd Cymru, tra bod rhybudd tywydd dwysach – rhybudd oren – mewn grym yn ne Cymru.
Yn ôl y Swyddfa Dywydd, mae llifogydd yn debygol o beri trafferth i deithwyr, ac mae cartrefi a busnesau yn debygol o golli eu cyflenwadau pŵer.
Bydd y llifogydd yn “peryglu bywydau”, yn ddwfn, a’n llifo’n gyflym mewn rhai mannau, yn ôl rhagolygon y Swyddfa.
Yn ogystal, mae disgwyl gwyntoedd cryfion yng ngorllewin Cymru a fydd yn peri trafferth i gerbydau, a’n achosi tonnau mawrion.
Bydd rhybuddion tywydd mewn grym o ddydd Gwener hyd at brynhawn dydd Sadwrn, ond mae disgwyl i’r tywydd garw bylu yn y gogledd cyn y penwythnos.