Pontypridd yw’r chweched tref brifysgol rataf o ran prynu tŷ ynddi, yn ôl astudiaeth gan gymdeithas adeiladu Halifax, gyda phris cyfartalog tŷ yn y dref yn £150,034.
Dim ond Middlesbrough (£147,843), Sunderland (£144,920), Hull (£141,117), Bradford (£140,029) a Paisley (£127,395) sy’n rhatach o fewn gwledydd Prydain.
Carlisle (£151,161), Belffast (£153,813), Stoke (£154,632) a Durham (£155,654) sy’n cwblhau’r 10 isaf.
Dydi’r astudiaeth ddim yn cynnwys prifysgolion Llundain, oherwydd bod ffactorau gwahanol yn effeithio ar brisiau tai yno o gymharu â mannau eraill.
Yn ôl yr astudiaeth, mae pris cyfartalog tai mewn trefi prifysgolion wedi cynyddu bron i £34,000 dros gyfnod o dair blynedd – hyd y rhan fwyaf o gyrsiau gradd.
Mae hyn, meddai’r astudiaeth, yn golygu bod pobol 18% yn fwy tebygol nag yn 2015 o barhau i fyw yn y dref lle’r aethon nhw i’r brifysgol.
O ystyried cyrsiau gradd pedair blynedd, fe fydd myfyrwyr yn y categori hwn oedd wedi dod i ben eleni wedi gweld cynnydd cyfartalog o £44,823 (25%) ers dechrau eu cwrs yn 2014.