Mae arweinydd newydd Plaid Cymru, Adam Price yn cefnogi deddfwriaeth newydd ym maes awtistiaeth.

Drannoeth ei ethol yn arweinydd, mae golwg360 wedi gweld copi o e-bost Adam Price at yr ymgyrchydd Aled Thomas, lle mae’n dweud ei fod e a’i blaid wedi ymrwymo i sicrhau deddfwriaeth newydd.

Daw’r gefnogaeth ar ôl i Aled Thomas lunio briff newyddion yn ddiweddar, lle’r oedd e wedi amlinellu ei bryderon ynghylch y ddarpariaeth bresennol ar gyfer awtistiaeth, a’r angen am ddeddf newydd yng Nghymru.

Dywedodd, “Rwy’n gobeithio fydd deddfwriaeth yn y maes yma yn cynnig gobaith i bobl ag awtistiaeth bod yna seilwaith cadarn ar gyfer sicrhau y math o wasanaethau sydd angen ar gyfer pobol awtistig yng Nghymru”.

Ateb gan Adam Price

Yn ei lythyr, dywed Adam Price ei fod yn “falch o nodi fe bleidleisiais i a fy nghyd ACau Plaid Cymru yn flaenorol o blaid deddfwriaeth Awstistiaeth newydd, ond yn anffodus fe fethodd y cynnig i gyflwyno’r ddeddfwriaeth”.

Ychwanega y “byddaf yn siwr o gadw llygaid ar y sefyllfa a chadw eich gohebiaeth mewn cof”.