Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi cyhuddo Llywodraeth Cymru o “ragrith ac anghysondeb” am wahardd saethu ffesantod ar eu tiroedd.
Yr wythnos hon fe gyhoeddodd Cyfoeth Naturiol Cymru y bydd y drwydded i saethu ffesantod ar Ystâd Goetir Llywodraeth Cymru, sy’n cael ei rheoli gan y corff, yn dod i ben ym mis Mawrth 2019.
Maen nhw’n dweud eu bod nhw heb adnewyddu’r drwydded am bod Llywodraeth Cymru, y tirfeddianwyr, yn erbyn yr egwyddor o fagu a saethu ffesantod.
Mae llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar faterion amgylcheddol, Andrew RT Davies, wedi beirniadu Llywodraeth Cymru yn sgil hyn – yn enwedig o ystyried eu methiant yn ddiweddar, meddai, i atal prosiectau fel yr amlosga yn y Barri a’r “mwd ymbelydrol” sy’n cael ei symud i Fae Morgannwg.
“Rhyfedd”
“Mae’n rhyfedd bod gweinidogion Llafur – yn erbyn pob ffaith a thystiolaeth wyddonol – wedi penderfynu ymyrryd fel hyn,” meddai Andrew RT Davies.
“Allwn ni ddim anghofio bod yr un Gweinidog [Lesley Griffiths] wedi methu droeon â chymryd camau i atal yr amlosgfa yn y Barri a’r mwd ymbelydrol ym Mhenarth, ac mae pobol, yn gyfiawn, yn holi pam…
“Mae’n ein harwain ni i ofyn pam bod Cyfoeth Naturiol Cymru a Llywodraeth Cymru yn barod i ymyrryd yn y mater yma, ac yna â dim diddordeb mewn materion eraill.”
Mae golwg360 wedi gofyn i Lywodraeth Cymru am ymateb.
Ystâd Coetir Llywodraeth Cymru
Mae Ystâd Goetir Llywodraeth Cymru yn ddarn o dir sy’n ymestyn dros 126,000 hectar yng Nghymru, sef 6% o holl dir y wlad a 40% o’i choedwigoedd.
Mae’r Ystâd yn cael ei defnyddio i ddarparu nwyddau a gwasanaethau, gyda thua 850,000 tunnell fetrig o bren yn cael ei gynhyrchu yno bob blwyddyn.
Mae prosiectau ynni adnewyddadwy hefyd yn cael eu datblygu yno, sy’n defnyddio adnoddau fel dŵr a gwynt.
Cyfoeth Naturiol Cymru yw’r corff sy’n rheoli’r tir ar ran Llywodraeth Cymru.