Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cadarnhau eu bod nhw wedi cyhuddo’r cyn-Aelod Cynulliad, Simon Thomas, o dri achos o greu lluniau anweddus o blant.

Fe gafodd Simon Thomas ei arestio ddiwedd mis Gorffennaf ar ameuhaeth o fod â delweddau anweddus yn ei feddiant.

Roedd hefyd wedi ymddiswyddo o’i swydd yn Aelod Cynulliad Canolbarth a Gorllewin Cymru, ac o fod yn aelod o Blaid Cymru, ar Orffennaf 25.

Erbyn hyn, mae’r heddlu wedi cadarnhau eu bod nhw wedi dwyn tri achos yn ei erbyn.

Bydd yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Aberystwyth ar Hydref 3.