Yr unig ffordd o ddatrys yr anghytundeb llwyr yn y Senedd ynghylch Brexit yw trwy gynnal refferendwm arall, yn ôl y cyn-weinidog Guto Bebb.

“Byddai’n annemocrataidd peidio â rhoi llais i’r cyhoedd unwaith y byddwn ni’n gwybod beth ydi’r cytundeb Brexit y bydd y Prif Weinidog wedi’i sicrhau,” meddai.

Roedd AS Ceidwadol Aberconwy wedi ymddiswyddo o’r llywodraeth ym mis Gorffennaf mewn protest yn erbyn yr hyn roedd yn ei weld fel parodrwydd Theresa May i ildio gormod i garfannau mwyaf gwrth-Ewropeaidd ei phlaid.

“Roedd ei chynllun Chequers yn syrthio’n fyr o’r hyn roedd ar bleidleiswyr dros adael ei eisiau, ac mae Brexit mewn perygl o achosi niwed difrifol i fywoliaeth pobl ledled y wlad,” meddai ar raglen BBC Radio 4, Today.

“Fydd y bobl fydd yn dioddef y difrod yma i’w bywoliaeth ddim yn maddau gwleidyddion sydd wedi dweud yn ddi-hid y bydd popeth yn iawn.”

‘Penderfyniad anodd’

Dywed Guto Bebb nad ar chwarae bach y daeth i’r penderfyniad.

“Roedd y refferendwm yn un o brofiadau mwyaf anghysurus ein bywydau gwleidyddol ac yn ymgyrch annifyr iawn,” meddai.

“Fodd bynnag daw’n fwyfwy amlwg ar draws y blaid seneddol nad oes dim mwyafrif yn y Tŷ dros unrhyw ffurf o gytundeb y mae’r Prif Weinidog yn llwyddo’i gael.

“O’r herwydd, dw i’n meddwl bod pobl yn gofyn iddyn nhw’u hunain, efo calon drom, y cwestiwn syml: os na all y Senedd benderfynu ar y pwnc yma, sut ydach chi’n ei ddatrys?

“Mae yna farn gynyddol fod gan y bobl a wnaeth y penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd, pobl y wlad yma, yr hawl i fynegi barn ar unrhyw gytundeb – neu dim cytundeb os nad oes un – cyn inni dynnu’r plwg.”

Guto Bebb yw’r AS Torïaidd cyntaf o Gymru i gefnogi pleidlais o’r fath, ac mae’n ymuno â charfan fach o gyd-aelodau ei blaid yn y Senedd gan gynnwys y cyn-weinidogion Anna Soubry, Justine Greening a Philip Lee, a Chadeirydd y Pwyllgor Dethol ar Iechyd, Sarah Wollaston.