Mae cyffur newydd sy’n atal yr haint HIV wedi cael dechrau “calonogol”, yn ôl Llywodraeth Cymru.
Mae byrddau iechyd wedi bod yn darparu cyffuriau PrEP (proffylacsis cyn-gysylltiad) ers mis Gorffennaf y llynedd, a hynny trwy gyfrwng clinigau iechyd rhywiol.
Yn ystod y flwyddyn gynta’, fe wnaeth 559 o bobol sydd mewn peryg o gael eu heintio, gael eu trin yn rhan o’r astudiaeth dair blynedd.
Ni wnaeth yr un ohonyn nhw a oedd yn defnyddio PrEP fynd ymlaen i ddatblygu HIV, meddai Llywodraeth Cymru.
“Balch iawn”
Mae ffigyrau’n dangos bod achosion newydd o heintiau yn lleihau, gyda’r data diweddaraf yn dangos bod nifer yr achosion newydd o HIV wedi syrthio 24% yn chwarter ola’ 2017 o gymharu â 2016.
Dywed yr Ysgrifennydd Iechyd ei fod yn “falch iawn” bod gwasanaethau iechyd rhywiol Cymru wedi manteisio ar PrEP, gan ddweud bod y canlyniadau cychwynnol yn “galonogol”.
Ond mae’n dweud mai un dim ond un rhan o’r strategaeth ehangach i ostwng nifer yr achosion newydd o HIV yw hyn.